Premiere byd i Sorrrows of the Somme

In cyngherddau by Nyaw

Delwedd gan Aled Rhys Hughes oddi wrth gyfres Mametz

Premiere byd i Sorrows of the Sommme gan Gelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru:

Sorrows of the Somme
I Gorws, Unawdwyr a Cherddorfa

Cerddorfa Genedlaethol Ieueunctid Cymru

Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru

Cyfansoddwr: Brian Hughes

Gyda libreto sy’n seiliedig ar weithiau llenyddol y Rhyfel Byd Cyntaf a geiriau newydd gan Dr Rowan Williams

Arweinydd: Gareth Jones

Perfformiad arbennig a gefnogir gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Llywodraeth Cymru a Cymru’n Cofio / Wales Remembers 1914-18.

Mae Sorrows of the Somme yn ymateb gwefreiddiol corawl a cherddorfaol i weithiau llenyddol Saesneg, Cymraeg ac Almaeneg a ysfrifennwyd yn ystod brwydr Coedwig Mametz lle bu farw anafu bron 4,000 o filwyr Cymreig yn nyddiau cyntaf Brwydr y Somme ym mis Gorffennaf 1916.

Wedi’i berfformio gan bobl ifanc yr oes sydd ohoni, mae Sorrows of the Somme yn cloi rhaglen artistig pedair blynedd i nodi Cymru’n Cofio / Wales Remembers 1914-1918 – ac mae’n ddigwyddiad fydd yn sicr o’n hatgoffa o fregusrwydd ac ysbryd Cymry coll y Rhyfel Byd Cyntaf.

 

Tocynnau: £14 | £12 consesiynau

Llinell Cynulleidfaoedd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC: 0800 052 1812

Dydd Sul 21 Hydref 3yp
BBC Neuadd Hoddinott, Canolfan Mileniwm Cymru